|
Ydych chi’n gweithio ym maes Cerameg? I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Féile Clai yn Iwerddon a Chymru, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod
Arddangosfa EGIN-GERAMEG 2006
11eg Awst – 1 Hydref Yr Oriel Grefft Genedlaethol, Kilkenny, Iwerddon
13eg Hydref – 11eg Rhagfyr, Yr Oriel Gerameg, Canolfan y Celfyddydau, Cymru
Yr Arddangoswyr o Gymru ac Enillydd a Mentor yr Ysgoloriaeth. O’r gwaelod ar y chwith yn glocwedd. Susan Hayward, Brian Anderson (Enillydd yr Ysgoloriaeth) Justine Allison, Deiniol Williams, Roger Guy Young (Mentor yr Ysgoloriaeth) James Waters a Tilla Waters. Nid oedd Kerry Williamson ar gael ar gyfer y ffotograff.
Yn cynnwys gwaith gan
Mae Egin-Gerameg yn darparu llwyfan i hyrwyddo’r gorau ymhlith egin-geramegwyr a cheramegwyr newydd o ardaloedd INTERREG Iwerddon a Chymru. Mae’r arddangosfa yn cynnwys 12 gwneuthurydd newydd sydd wedi’u dethol oherwydd eu rhagoriaeth a’u safonau uchel. Mae’n cynnig cyfle unigryw i weld ac i brynu gwaith gan wneuthurwyr addawol a fydd yn geramegwyr medrus ym myd Cerameg yng Nghymru ac Iwerddon yn y dyfodol.
Rhan o Adroddiad Roger Guy Young am weithdy’r Ysgoloriaeth gyda Brian Anderson
Roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i wneud y prosiect yma, ac roeddwn yn falch mai Brian oedd yr un y byddwn yn gweithio gydag ef.
Fel hyn yr ymgymerais â’r dasg: Annog Brian i feddwl am fylchau yn ei wybodaeth y gallwn i eu llanw. O fewn cyd-destun ei waith, ceisio gweld pa ddeunydd a pha dechnegau y gallwn eu cyflwyno iddo gan obeithio y byddent yn addas, yn ddefnyddiol ac efallai yn destun ysbrydoliaeth iddo.
Gofynnodd Brian am arweiniad iddo gael dechrau datblygu ac addasu sgleiniau yn ei waith. Darfu inni brofi rhai sgleiniau go safonol gyntaf, gan ychwanegu ocsidiau ac ati. Mae’n Brian yn ddigon hyderus erbyn hyn i ymgymryd â’r gwaith hynny ei hunan.
Bu Brian yn defnyddio mowldiau yn ei waith. Dyma ni yn treulio tipyn o’n hamser yn gwneud modeli felly. Gwnaethom fowldiau ar sail y rheiny wedyn, ac yn y pen draw gwneud peth gwaith ffurfio gyda’r mowldiau. Ffurf gymhleth oedd yr un yr oedd Brian wedi’i dewis: roedd angen mowld pedair rhan er mwyn dod i ben â hi. Roedd dysgu cymaint â hyn yn dipyn o gamp, ond gwyddwn y byddai Brian yn ddigon abl.
Gwnaeth Brian fodel a mowld i botiau bach halen a phupur. Siâp taeog gwyddbwyll oedd iddynt. Cawsant eu hychwanegu at y cwpanau bach dal wyau siâp castell gwyddbwyll. Defnyddiom ni’r canlynol: crochenwaith wen; maen gwyn; porcelain a phorcelain-papur.
Canlyniad annisgwyl i’r gwaith dysgu oedd ffurfio’r llestri ‘clustfain’. Sylwodd Brian i fin y ddysgl godi ambell waith oherwydd gordyndra ar wyneb y mowld ffurfio. Daeth hynny yn adnodd i ffurfio nifer o lestri trwy rinwedd arllwys y deunydd i’r mowld mewn modd creadigol.
Hyd yn hyn, treuliom ni 4 diwrnod llawn yn fy stiwdio i, rhai oriau yn stiwdio Brian, a rhai oriau fan hyn a fan draw. Bu i wario’r arian felly sawl mantais. Rhoes gyfle i Brian feithrin syniadau newydd, a’u hystyried wrth iddo weithio ar ei ben ei hun. Dod yn ôl ataf i wedyn gyda ffrwyth ei lafur er mwyn gofyn rhagor o gwestiynau a godasai yn ystod y broses greu. Bu’n gyfle inni wneud gwaith tanio ar sawl achlysur. Roedd gweld darnau a wnaed gennym a dysgu oddi wrthynt yn rhan o’r profiad.
Rhan o Adroddiad Brian Anderson
Yr wyf wedi dysgu sut gymaint eleni yn sgil ennill ysgoloriaeth Féile Clai.
Gwaith ffurfio a gwneud mowldiau oedd y prif ffocws. Gwnes i gwpan dal wyau siâp castell gwyddbwyll. Roedd hynny yn rhan o thema oedd gen i eisoes. Gwnaeth Roger daflu’r ffurf a finnau yn ei throi yn siâp yn ôl fy chwaeth fy hun wedyn. Torrais batrwm siâp dannedd yn y crib. Dangosais Roger sut oedd defnyddio’r mowld pedair rhan, a buom yn mowldio nifer o bethau. Dysgais wneud gwaith taflu graenus gan amrywio’r amseru, a bûm yn mwynhau fy ngwaith tacluso a chymhennu!
Y sialens nesaf oedd gwneud y potiau bach halen a phupur. Bu eisiau mowld tair rhan i wneud y rheiny. (Roedd yr arian prynu deunydd yn werthfawr tu hwnt : heb yr arian hwnnw, buaswn heb yr offer a’r deunydd angenrheidiol.) Yr wyf yn dal i weithio ar yr eitem nesaf yn y gyfres sef brenin gwyddbwyll siâp pot marmalêd. Gwaith cymhleth yw hwn oherwydd mae tair rhan i’r gwaith taflu.
Bu’r gwaith mowldio a ffurfio yn gyfle i fi arbrofi gyda mowld powlen blastr. Ychwanegais fowld arllwys gorgyffwrdd er mwyn creu llestri cain. Rhoddais sglein celadon ar y llestri wedi’u creu.
Yr wyf wedi magu hyder wrth ddefnyddio’r ffwrn bellach, a theimlaf y gallaf ychwanegu yn fawr at fy ngwybodaeth a bwrw ymlaen â’m gwaith yn llawn arddeliad.
Diolch o galon!
Adroddiad ar Ysgoloriaeth Deithio Féile Clai. Karen Morgan
Cyfle hynod werth chweil i mi fel crochenydd ar ddechrau fy ngyrfa oedd cael treulio wythnos yn gweithio â Jack Doherty trwy brosiect Féile Clai. Nid yn unig iddo fod yn brofiad dysgu ond hefyd rhoddodd y cyfle imi i gwrdd a gweithio â chrochenydd y mae’i waith yn destun edmygedd gen i er pan ddechreuais weithio â chlai am y tro cyntaf
I gael y gorau o’r wythnos, penderfynodd Jack a finnau ddefnyddio’r ddau ddiwrnod cyntaf i ganolbwyntio ar wneud crochenwaith gan gadw gweddill yr amser ar gyfer sychu ac addurno/gwydro er mwyn pacio llwyth llond odyn a’i danio â soda. Roedd hyn yn ymddangos fel tipyn i’w gyflawni mewn pum niwrnod ond llwyddon ni i ddod i ben ag ef a hyd yn oed i ymweld â stiwdios prydferth Wombage Farm sy’n cael eu rhedeg gan Sheila Casson.
Roedd gan Jack nifer o wahanol borslenni i’w defnyddio a oedd yn gyfle da i brofi pa glai oedd yn gweithio orau ar gyfer fy ngwaith. Yn ogystal â thaflu, roeddwn i eisiau ceisio rhywbeth newydd, felly cafwyd sesiwn lle y bu Jack yn gwneud ei ddysglau slab sgwâr gan fy rhoi ar ben ffordd ar gyfer diwrnod yn arbrofi â gwneud marciau a threiddio ac ymestyn y clai. Mi gefais fod gweithio’n fwy byrfyfyr ac yn rhwyddach gyda’r clai, yn creu canlyniadau a oedd yn llawer iawn mwy ffres ac egniol.. Rhoddodd hyn dipyn o le i weithio ar syniadau newydd mewn perthynas â throsi’r ffordd yma o drafod porslen yn ddarnau a deflir â llaw.
Fe’n cedwid ar flaenau ein traed gan y tywydd anrhagweladwy – haul tanbaid a mellt a tharanau - wrth geisio sychu’r gwaith ond addurnwyd y potiau sych terfynol gan ddefnyddio amrywiaeth o ryseitiau slip Jack, ocsidiau a gwydredd shino.
Bydd Jack bob amser yn tanio’i waith unwaith mewn odyn soda propan, Dechreuwyd ar y gostyngiad tua 1000 c yn oriau mân y bore. Dechreuodd gwaith chwistrellu’r hydoddiant sodiwm i bortyllau’r odyn wrth i gôn 8 ddechrau a pharhaodd am y ddwy awr nesaf a chwblhawyd tanio pan oedd côn 10 i lawr. Roeddwn i wir wrth fy modd â’r ffordd yma o danio nid yn unig oherwydd y canlyniadau hardd o ran y gwydredd sy’n pwysleisio’r gweadau a’r marciau ar y clai ond oherwydd yr ymwneud parhaol yn y broses danio.
Roedd y profiad cyfan yn gadarnhaol iawn. Mi ddes i werthfawrogi a chael mewnwelediad i’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n rhan annatod o weithio â gwydredd soda. Bu’r amser a’r gofod yn stiwdio Jack gan ddysgu o’i dechnegau a’i adborth adeiladol, yn ysgogiad i lifeiriant o syniadau newydd gan roi amser imi fyfyrio ar y ffordd y galla i weld fy hun yn datblygu fy ngwaith â phorslen ymhellach. Felly, canmil diolch i Jack am roi o’i amser i’r prosiect ac i Féile Clai am drefnu a chyllido ysgoloriaeth hynod werth chweil ac adeiladol. Karen Morgan
Mi ddechreuais ymddiddori mewn gweithio â chlai wrth fynychu Ysgol Gelf a Dylunio Limerick gan fynd yn fy mlaen i ennill Diploma mewn Dylunio Cynnyrch Cerameg. Yn dilyn hyn, bûm yn mynychu’r cwrs blwyddyn mewn Sgiliau Crochenwaith ym 1999 lle y cefais y sgiliau angenrheidiol fel crochenydd i symud allan i weithio fel taflwr cynhyrchu llawn amser.
Mi dreuliais y flwyddyn neu ddwy ar ôl hynny yn datblygu fy sgiliau taflu ymhellach wrth weithio mewn nifer o stiwdios yn Iwerddon megis Crochendy Michael Kennedy, Swydd Galway a Chrochendy Castle Arch, Kilkenny. Yna, mi gymerais hoe fach i deithio a bûm yn gweithio â Paul Laird yn Seland Newydd yn ogystal â dysgu cerameg ar fwrdd llong fordeithiau Princess am chwe mis. Dychwelais i Iwerddon yn 2005 i fynychu ail flwyddyn y Cwrs Sgiliau a Dylunio Crochenwaith newydd a roddodd y cyfle imi i ddatblygu fy sgiliau gwneud a dylunio personol er mwyn sefydlu fy stiwdio fy hun.
Ar hyn o bryd dwi’n gwneud dwy gyfres o waith, y ddau wedi’u taflu â llaw. Y gyntaf yw cyfres gyfoes mewn porslen sy’n cynnwys fy mhestl a mortar. Llestri mwy cerfluniol, unigol sydd dan sylw yn yr ail gyfres Sandscapes sydd wedi’u hysbrydoli gan ffurfiau cregyn a thirweddau naturiol; mae’r ddwy gyfres yn rhannu ieithwedd debyg a grëwyd wrth acennu llifeiriant ffurf trwy ystumio patrwm llinol cymhwysol.
Enillydd Gwobr Dylunio Habitat/House and Home 2006, oedd fy Mhestl a Mortar porslen a gynlluniwyd er mwyn cyfuno cerfluniaeth ac ymarferoldeb “hyfryd i’w ddefnyddio, yn ymarferol iawn ac yn wych i’w ddal a hwn oedd y ffactor a enillodd y wobr yn fy marn i” Dermot Boyd, Pensaer. Mae’r darn hwn wedi’i brynu gan yr Oriel Grefft Genedlaethol ar gyfer eu casgliad parhaol a hefyd enillodd imi Wobr Dylunydd Myfyriwr Iwerddon 2006 yn Sioe Dylunio Mewnol RDS Dulyn.
I greu’r llestri Sandscape dwi wedi ymestyn a newid y clai tra bydd yn ffres ar y droell, gan ddal y tyndra’r egni yn y darn. Mae’r ffurfiau organig meddal a hylifol hyn yn adlewyrchu’r golau a’r cysgodion sy’n cael eu bwrw dros dwyni tywod lle y bydd patrymau’n newid o hyd ac yn eu hail-greu eu hunain. Bu Sandscapes yn cymryd rhan yn Cerameg Iwerddon eleni yn Arddangosfa Castell Dalkey gan ennill Gwobr Cerameg Arloesol Peter Brennan. Yna, aeth yr arddangosfa hon i gymryd rhan yn Plan Expo, y cynulliad pensaernïol blynyddol yn RDS Dulyn.
Bu’r ddwy gyfres hefyd ar ddangos yn Sioe Grefftau Genedlaethol Dulyn 2006.
Rhoddodd ennill Ysgoloriaeth Egin-Wneuthurwyr Féile Clai eleni y cyfle bendigedig imi i deithio i’r DU i gydweithio â’r crochenydd Jack Doherty. Bu’r wythnos a dreuliais yn gweithio ag ef yn ei stiwdio yn fuddiol iawn i mi ac yn ysbrydoliaeth. Roedd yn wych i gymryd rhan yn arddangosfa yr Egin-Wneuthurwyr a deithiodd o’r Oriel Grefft Genedlaethol yn Kilkenny i Aberystwyth gan adael imi ddangos fy ngwaith yn Iwerddon a Chymru. Mae cael cymaint â hyn o sylw ar yr adeg hon yn fy ngyrfa wedi helpu’n fawr wrth greu nifer o gyfleoedd gan wir ehangu fy ngorwelion
Ar hyn o bryd dwi’n gweithio rhan-amser i Grochendy Colm de Ris Dulyn gan wneud a dylunio fy ngwaith fy hun o stiwdio yn Thomastown Swydd Kilkenny. Manylion cyswllt: Ffôn: 00353 (0)86 1663691 E; karenmorganceramics@eircom.net Cyfeiriad; 18 The Belfry,Thomastown, Co.Kilkenny.Iwerddon
Ar ôl ein sgwrs gyntaf, roedd yn amlwg bod Karen wedi cyrraedd man lle’r oedd wedi esblygu rhai gynhyrchion llwyddiannus ac roedd wedi bod wrthi’n ddi-baid ers misoedd, gan wneud darnau ar gyfer ei sioe derfynol. Buom yn siarad am y ffordd orau i ddefnyddio’r amser yn Hooks Cottage a dyma ni’n esgor ar gynllun a oedd yn golygu crynhoi fy nghylchred gwaith tair wythnos arferol i bum niwrnod! Fel man cychwyn, rhoddais ddetholiad o gleiau porslen i Karen a dechreuodd greu cyfres o ffurfiau wedi’u taflu gan ecsbloetio gwahanol ansawdd pob un. Mi wnes eu hannog i weithio mewn ffordd fwy ymlaciedig ac i anghofio’r pwysau o orfod gwneud darnau a fyddai’n cael eu beirniadu a’u hasesu. Bu Karen yn arbrofi ag amrywiaeth o slipiau, lliwiau a gwydreddau wedi’u bwriadu ar gyfer taniad unigol mewn odyn soda. Llwyddasom i sychu’i gwaith (wedi’i bwyso’n simsan ar ben rheiddiaduron) ac i lwytho a thanio’r odyn. Teimlais mai fy swyddogaeth i oedd fel mentor rhagor nag athro ac felly roedd yna ddigon o siarad am fywyd fel crochenydd, potiau a phobl. Gobeithiwn y byddai Karen yn cael ei hamser hefo fi’n fuddiol yn ogystal â difyr ac y byddai’n mynd ag amrywiaeth o atgofion a phrofiadau i ffwrdd â hi, a all fod, hwyrach, â rhyw berthnasedd yn y dyfodol. Jack Doherty
‘18fed a 19eg MAWRTH 2006’ CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH
Ar brynhawn Sadwrn, rhoddodd Jill Piercy o Fentrau Diwylliannol seminar am sut i gael hyd i gyllid. Roedd ganddi lawer o gyngor a gwybodaeth i’w gynnig. Un awgrym buddiol oedd i feddwl “y tu allan i’r blwch” gan fod nifer o fân bocedi o gyllid nad ydynt ar gael i Gerameg yn uniongyrchol, ond lle y gallai ceramegwyr gyfeirio prosiect os yn briodol. Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd cyllid dylech fynd at Cynhaliodd Simon Hubert, sy’n geramegydd a sydd hefyd yn rheoli Crochenwaith Brook Street yn y Gelli Gandryll, seminar ar “Sut i brisio Gwaith.” Ar ôl edrych ar yr holl orbenion, cost y defnyddiau, amser a dreuliwyd wrth gynllunio a gwerthu, cafwyd trafodaeth fywiog a oedd yn pwyso a mesur beth yw gwerth y darn a faint yn union y gellir gofyn amdano. Yn cyd-ddigwydd â’r penwythnos oedd Gweithdy Photoshop o dan ofal tîm ECCO. Cymerai’r gweithdy hwn chwe unigolyn ar y tro i ddilyn cwrs dwys am ddiwrnod gan ddefnyddio Photoshop i addasu delweddau i’w defnyddio ar gyfer cyhoeddusrwydd, gwefannau ayyb.
Cyfle cyffrous ym mis Mawrth 2006 i gymryd rhan mewn dau ddosbarth di-dâl gyda’r meistri dros un penwythnos
Ble Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Ceredigion
Pryd ddydd Sadwrn 18fed a dydd Sul 19eg Mawrth 2006
Pwy Pobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardaloedd INTERREG Cymru ac Iwerddon Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Meath, Dulyn, Kildare, Wicklow, Carlow, Wexford, Kilkenny, De Tipperary a Waterford. Dyma’r ardaloedd sy’n derbyn cyllid 111A Interreg yng Nghymru ac Iwerddon.
Beth sydd ar gynnig?
Dosbarth cerameg gyda’r meistr.
Dosbarth Trafod Digidol gyda’r Meistr
Sut mae prisio’ch gwaith? Os ydych yn gwerthu’n uniongyrchol a ydych yn cymryd i ystyriaeth eich gorbenion a threuliau A ydych yn cymryd i ystyriaeth y swm ychwanegol a godir gan yr orielau ar ben eich pris ac a ydych o’r farn y gellir cyfiawnhau hyn?
Sut mae cael gafael ar gymorth ariannol.
Ac yn olaf ar Nos Sadwrn Cynhelir bwffe (dewisol) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i roi cyfle i bawb ohonom, yn diwtoriaid, yn drefnyddion a chynadleddwyr) i sgwrsio/rhwydweithio a dod i nabod ei gilydd!
Faint fydd hyn i gyd yn costio? Mae’r dosbarthiadau gyda’r meistri a sesiynau eraill yn ddi-dâl i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardaloedd INTERREG (gweler uchod) Gallwn drefnu i gael gofal plant di-dâl ar gais. Mae Féile Clai yn gobeithio medru darparu cludiant o rai ardaloedd. Dylech gysylltu â Joan Doherty 01874 711 643 am fanylion pellach.
Bydd angen i chi drefnu a thalu am eich llety eich hun. Cysylltwch â Chanolfan Croeso Aberystwyth Ffôn. 01970 612125 neu www.ceredigion.gov.uk
SEMINAR GYDA JOHN WHEELDON a SESIWN FFOTOGRAFFIG GYDA MARTIN AVERY (DIWRNOD SGILIAU DATBLYGIAD PROFFESIYNOL) 3 MEDI 2005
Ar 3 Medi 2005, cynhaliodd Féile Clai Ddiwrnod Datblygiad Proffesiynol eithriadol o lwyddiannus yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Cynhaliwyd dau weithdy:
Ffotograffydd proffesiynol sy’n arbenigo mewn cerameg yw Martin Avery. Rhoddodd ef gyfle i'r gwneuthurwyr gael lluniau wedi'u tynnu o'u gwaith a rhoddodd gopïau o’r sleidiau neu'r printiau gorffenedig a CD iddynt. Roedd y crochenwyr yn gydnabod bod angen safonau proffesiynol yn y maes ac roeddent wrth eu bodd â’r lluniau a gawsant. Cytunodd pawb fod hyn yn eu helpu i gyflwyno’u gwaith. Arweiniodd John Wheeldon seminar a oedd yn cynnwys llunio llestri, eu gwneud, eu haddurno a chrasu Raku. Cafwyd trafodaeth ddifyr ar fanteision ailgylchu defnyddiau a gwneud y defnydd gorau o bethau y daw rhywun o hyd iddynt ar hap.
Gan fod yr ymateb i’r diwrnod mor gadarnhaol a chalonogol, bwriedir trefnu penwythnos llawn ym mis Mawrth 2006. Cliciwch yma i wybod mwy am awgrymiadau ailgylchu John Wheeldon Cliciwch yma i gael nodidau defnyddiol ar arddangosiad John Wheeldon
FFORWM DATBLYGU PROFFESIYNOL 1 GORFFENNAF 2005 Ar 1af o fis Gorffennaf 2005, cyflwynodd Féile Clai ei ddiwrnod Datblygu Proffesiynol cyntaf wedi’i anelu at Wneuthurwyr Newydd a’r rheini sy’n dechrau dod i’r fei.
Isod ceir rhai o’r sylwadau a wnaethpwyd ar y diwrnod.
“Ffantastig - diolch” “Mae’n anhygoel ei fod o am ddim!” “Diwrnod ardderchog gyda gwybodaeth ddefnyddiol iawn” “Mae’r sesiwn Cwestiwn ac Ateb wedi bod yn addysgiadol dros ben. Roedd yn braf cael rhannu profiadau!” “Da iawn!” “Ardderchog” “Diolch yn fawr iawn!” Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod: ADBORTH – Fforwm Datblygu Proffesiynol 2005 ARTIST PRESWYL GORFFENNAF 2005Daeth yr artist Jude Jelfs i’r Fforwm Datblygiad Proffesiynol a’r Wyl Gerameg Genedlaethol i gofnodi’r ddau achlysur. Cliciwch yma i weld ei brasluniau
Feile Clai INTERNATIONAL CERAMIC FESTIVAL 8TH / 9TH / 10TH SEPTEMBER, 2006. THOMASTOWN, KILKENNY
Demonstrators include: Shao Ting Ju Taiwan Figurative sculpture John Ffrench Ireland / USA Decorative vessels Daphne Corregan France Sculptural raku Geoffrey Healy Ireland Wood fired domestic ware Ashraf Hanna Wales Raku vessels
|
|||||||||||||||||||||||||
![]() ![]() ![]() |
|||||||||||||||||||||||||